Cinio Ysgol am Ddim Cliciwch yma

Ysgol Uwchradd Bodedern
  • Hwb
  • School Gateway

Diogelu – Beth mae hyn yn ei olygu?

Mae Gwasanaeth Addysg Môn a’r ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod pob disgybl yn ddiogel, yn teimlo’n saff, ac yn cael cefnogaeth. Mae diogelu yn golygu gofalu am les corfforol ac emosiynol plant a phobl ifanc.

Pwrpas diogelu

Mae gan ysgolion ddyletswydd i’ch cadw’n ddiogel ac i helpu os oes unrhyw beth yn eich poeni. Mae hyn yn cynnwys eich diogelu rhag niwed, camdriniaeth, bwlio neu esgeulustod.

Pwy sy’n helpu?

Mae gan bob ysgol:

  • Person Dynodedig Diogelu – aelod o staff sydd yno i wrando ac i helpu
  • Eilydd – person arall i helpu os nad yw’r person dynodedig ar gael

Gallwch siarad â’r bobl hyn os oes gennych bryder am eich hun neu rywun arall.

Beth mae ysgolion yn ei wneud?

Mae ysgolion yn:

  • creu amgylchedd diogel i ddysgu
  • cymryd pob pryder o ddifrif
  • gweithio gyda gwasanaethau eraill fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a’r Heddlu
  • addysgu disgyblion sut i gadw’n ddiogel ac i ofyn am help

Mathau o niwed

Mae ysgolion yn ymwybodol o bethau fel:

  • niwed corfforol
  • niwed emosiynol
  • niwed rhywiol
  • esgeulustod
  • bwlio neu reolaeth dros arian

Cyfrifoldeb pawb

Mae gan staff ddyletswydd i wrando, helpu, a rhannu pryderon yn ddiogel. Os ydych chi’n teimlo’n bryderus, nid ydych chi ar eich pen eich hun – mae help ar gael. Edrychwch ar ein safle we.

Mae lles disgyblion yn allweddol i holl agweddau bywyd Ysgol Uwchradd Bodedern.

BWLETIN LLES

Yma gallwch gael mynediad at ein holl fwletinau lles.

Foto Jet 2022 09 05 T122516 821

2025

2024

2023

2022

2021

Ein nod yw datblygu disgyblion iach a hyderus gyda ffocws ar ddiogelwch, cynhwysiant a llesiant disgyblion yn eu dysgu a bywyd cymdeithasol.

Mae agweddau Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan (2008), Cynllun Rhwydwaith Ysgolion Iach Llywodraeth Cymru a Phum Ffordd at Les yn ganolog i hyn drwy’r themau:

  • Bwyd a Ffitrwydd
  • Iechyd a Lles Meddyliol ac Emosiynol
  • Datblygiad Personol a Pherthnasoedd
  • Defnyddio a Chamddefnyddio Sylweddau
  • Yr Amgylchedd
  • Diogelwch
  • Hylendid

Cysylltiadau Defnyddiol

Cofiwch

Gall Mrs Carys Rowlands drefnu apwyntiad i'r cwnselydd ysgol.

Mae cyfle i drafod materion iechyd cyfrinachol gyda gweithiwr iechyd proffesiynol, sydd ar gael bob amser cinio Dydd Llun yn ystafell y nyrs.

Mae gwybodaeth pellech ar gael gan eich tiwtor dosbarth ac ar hysbysfyrddau wybodaeth ar draws yr ysgol.