Cinio Ysgol am Ddim Cliciwch yma

Ysgol Uwchradd Bodedern
  • Hwb
  • School Gateway

O Fedi yn fwy nag erioed, byddwn angen gwneud yn siwr bod pob plentyn yn gwneud cynnydd drwy’r dysgu cyfunol yr ydym yn ei ddatblygu ar gyflymder.

Byddwn yn selio hyn ar bum cwestiwn ym mhob pwnc. Rwyf yn rhannu rhain gyda chi isod ynghyd a pham mae’r atebion y byddwch chi’n ei roi yn bwysig a sut y byddwn wedyn yn cynllunio’r camau nesaf i ‘ch helpu i wneud cynnydd.

Cwestiynau i ddisgyblion Pam fydd eich ateb yn bwysig
Beth wyt yn ddysgu? Pam? Mae hwn yn gwestiwn gwell na ‘Beth wyt yn ei wneud’ gan ei fod yn rhoi ffocws ar y dysgu ac nid ar unrhyw dasg benodol. Mi fydd y cwestiwn (a’ch ateb) yn dangos eich ymwybyddiaeth o’r bwriadau dysgu (learning intentions). Bydd yr athrawon yn rhannu‘r bwriadau dysgu efo chi ar ddechrau uned neu gyfres o wersi, ac mae hwn yn rhan pwysig o’r Cwricwlwm Newydd.
Sut wyt ti yn gwneud? Mi fydd eich ateb yn dangos eich ymwybyddiaeth o’r meini prawf llwyddiant. Eto, gallent fod yn addas am uned o waith/cyfres o wersi. Yn ddelfrydol bydd y meini prawf llwyddiant yn cael eu ffurfio ar y cyd gyda chi e.e. drwy ddadansoddi darn o waith cryf a gwan.
Sut ti’n gwybod? Mi fydd eich ateb yn dangos / yn adlewyrchiad o effaith adborth llafar ac / neu ysgrifenedig y byddwch yn ei dderbyn gan eich athrawon.
Sut y gallet wella? Mi fydd hyn yn dangos eich gallu i hunan asesu neu asesu cyfoedion yn effeithiol. Dylid cyfeirio yn ôl i’r meini prawf llwyddiant wrth wneud hyn. Byddwch yn gallu defnyddio adborth ac enghreifftiau neu fodelau i allu gwella’ch gwaith yn barhaus.
Lle ti’n mynd i gael cymorth os oes gen ti gwestiwn neu anhawster? Mae hwn yn dangos lle ydych wedi ei gyrraedd yn y gobaith o fod yn ddysgwyr annibynnol. Fe all eich atebion gynnwys: meddwl, trafod gyda chyfoedion, neu bartner trafod, gofyn i athro, defnyddio’r gwaith sydd ar y waliau, defnyddio safleoedd we neu apps penodol, neu yn naturiol Google Classroom.

Nid yn unig fydd y canfyddiadau yn gymorth ar gyfer ein trefniadau asesu ac adrodd newydd flwyddyn nesaf, bydd hefyd yn rhoi cyfle i athrawon addasu dulliau dysgu neu adnabod ymyrraeth a chefnogaeth fuan i chi.

Mae’r wybodaeth neu ‘ddata’ a ddaw o ofyn y cwestiynau yma i chi a hynny yn aml yn rhan greiddiol o weledigaeth newydd yr ysgol ac fe wnawn grisialu hyn yn syml i chi drwy’r pwyntiau bwled isod:

  • Mae pob disgybl yn gallu cyflawni safonau uchel o gael yr amser a'r gefnogaeth gywir.
  • Mae pob athro yn gallu addysgu i safonau uchel o gael amser penodol a'r cymorth iawn.
  • Mae disgwyliadau uchel ac ymyraethau cynnar a pharhaus yn allweddol.
  • Dylai pob arweinydd, athro, a disgybl allu egluro’n glir beth, pam a sut maen nhw yn arwain, addysgu, dysgu a hynny bob dydd.

Ffordd arall bwysig o rannu eich cynnydd gyda chi a’ch rhieni fydd cyfarfodydd rhieni. Er mwyn i chi a’ch rhieni allu mesur eich cynnydd yn well byddem yn awgrymu fod y drafodaeth gyda’ch athrawon yn ffocysu ar bum cwestiwn tebyg.

  1. Beth mae fy mhlentyn yn ei ddysgu?
  2. Sut mae ef / hi yn ei wneud ?
  3. Sut ydych chi’n gwybod? ( sut mae nhw yn ei wneud neu pa mor dda)
  4. Sut y gall ef / hi wella?
  5. Pa gefnogaeth y gallaf i a chi ei roi os yw fy mhlentyn yn cael trafferth? Pryd y gallwn wirio a dod at ein gilydd eto?

Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn heriol i bawb, ond credaf ei fod hefyd wedi atgyfnerthu pa mor allweddol ydi’r berthynas rhwng yr ysgol a’r cartref. Rwy’n ymwybodol fod gennym lawer iawn o waith eto ar hyn ac yn ogystal â gwella ein darpariaeth Google Classroom a datblygu dysgu ‘byw’. Rydym hefyd wedi ceisio gwella ein cyfathrebu drwy flogiau a fideos. O Fedi ymlaen byddwn hefyd yn lawnsio gwefan newydd, a hwn fydd canolbwynt ein cyfathrebu efo chi. Bydd ein gwefannau cymdeithasol i gyd wedi’i llwyfannu yno.

Mewn rhai o’r sustemau addysg gorau yn y byd megis y Ffindir mae yna ddiwylliant o ymddiriedaeth ble gyda’n gilydd y bydd arweinwyr, athrawon, rhieni a’r cymunedau yn gwybod sut i roi yr addysg orau i’r plant. Dyma’r ethos a’r diwylliant yr wyf am ei feithrin yma ym Mro Alaw.