Cinio Ysgol am Ddim Cliciwch yma

Ysgol Uwchradd Bodedern
  • Hwb
  • School Gateway

Dylai pob disgybl Blwyddyn 7 -11 wisgo:

  • Tei ysgol – streipen goch a nefi (maent i'w cael yn yr ysgol neu'r siopau).
  • Siwmper wedi ei gweu nefi blw gyda gwddw V a logo’r ysgol.
  • Mae’r ysgol yn hyrwyddo Look Around Sport, Brodwaith, Orchid Fashion a Little Treasures fel ein prif ddarparwyr
  • Blows / Crys coch plaen, gyda choler a llewys hir (neu llewys byr yn yr haf - nid crys "polo")

Mae gwisg wahanol ar gyfer disgyblion blwyddyn 12 a 13: siwmper gwddw V mewn glas tywyll gyda log y 6ed dosbarth a chrys gwyn.

IMG 1597
IMG 4344

Bechgyn a Merched

  • Trowsus – du o hyd a lled cyffredin (dim joggers na leggings/dim skinny/super skinny jeans)
  • Os belt, belt du plaen
  • (Gall merched wisgo pe dymunir sgert at y benglin nefi neu ddu)
  • Sanau plaen du (neu deits du i ferched pe dymunir)

Addysg Gorfforol:

  • Esgidiau Campfa (Trainers) gyda gwadnau golau;
  • Shorts du neu ‘navy’; Sanau pêl-droed coch; Crys T coch a peiping glas
  • Crys rygbi cildroadwy
  • Os dymunir: Esgidiau pêl-droed; Coesarn ar gyfer pêl-droed

Am resymau Iechyd a Diogelwch, ac i arbed trafferth a drwgdeimlad gyda cholledion ni chaniateir i ddisgyblion wisgo:

(i) tlysau ee mwclis. breichled (ag eithrio oriawr)

(ii) modrwyau

Caniateir i ddisgyblion wisgo un clustdlws “stud” yn unig ymhob clust.

  • Dylid gwisgo esgidiau du plaen sawdl isel sy’n addas a diogel ar gyfer diwrnod ysgol.
    Ni chaniateir esgidiau platfform uchel na sodlau uchel (dim uwch na 4 cm), na thrainers, na “boots”megis “UGGS” na sandalau – nid yw eu hedrychiad yn gweddu â gweddill y wisg ysgol. Ni chaniateir gwisgo motifau na bathodynnau.
  • Argymhellir cotiau rhad, plaen tywyll.
    Ni chaniateir gwisgo siacedi denim na ‘hoodies’ac mae angen bod yn ofalus iawn wrth ddewis côt law. Dylid osgoi'r dewis o liwiau llachar a chotiau/anoracau gyda motifau ffasiynol. Ni chaniateir gwisgo côt, sgarff na phenwisg y tu mewn i'r adeilad.
  • Yn ogystal â'r eitemau a restrir, disgwylir i ymddangosiad cyffredinol pob disgybl a myfyriwr fod yn dderbyniol i'r Pennaeth. Ni ddylid lliwio gwallt na’i dorri mewn steil eithafol na gwisgo colur. Ni chaniateir addurniadau yn y gwallt e.e. blodau.
  • Dylai’r bag ysgol fod yn addas i gario ffeiliau, llyfrau a dillad ar gyfer addysg gorfforol (neu gellir cael bag arall addas ar gyfer addysg gorfforol).
  • Dylai pob eiddo personol fod wedi ei farcio’n glir ag enw llawn y perchennog