Cinio Ysgol am Ddim Cliciwch yma
Diogelu
Diogelu – Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae Gwasanaeth Addysg Môn a’r ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod pob disgybl yn ddiogel, yn teimlo’n saff, ac yn cael cefnogaeth. Mae diogelu yn golygu gofalu am les corfforol ac emosiynol plant a phobl ifanc.
Pwrpas diogelu
Mae gan ysgolion ddyletswydd i’ch cadw’n ddiogel ac i helpu os oes unrhyw beth yn eich poeni. Mae hyn yn cynnwys eich diogelu rhag niwed, camdriniaeth, bwlio neu esgeulustod.
Pwy sy’n helpu?
Mae gan bob ysgol:
- Person Dynodedig Diogelu – aelod o staff sydd yno i wrando ac i helpu
- Eilydd – person arall i helpu os nad yw’r person dynodedig ar gael
Gallwch siarad â’r bobl hyn os oes gennych bryder am eich hun neu rywun arall.
Beth mae ysgolion yn ei wneud?
Mae ysgolion yn:
- creu amgylchedd diogel i ddysgu
- cymryd pob pryder o ddifrif
- gweithio gyda gwasanaethau eraill fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a’r Heddlu
- addysgu disgyblion sut i gadw’n ddiogel ac i ofyn am help
Mathau o niwed
Mae ysgolion yn ymwybodol o bethau fel:
- niwed corfforol
- niwed emosiynol
- niwed rhywiol
- esgeulustod
- bwlio neu reolaeth dros arian
Cyfrifoldeb pawb
Mae gan staff ddyletswydd i wrando, helpu, a rhannu pryderon yn ddiogel. Os ydych chi’n teimlo’n bryderus, nid ydych chi ar eich pen eich hun – mae help ar gael. Edrychwch ar ein safle we.
Tîm Amddiffyn Plant
Os oes gennych bryderon cysylltwch ag aelod o’r tîm ar unwaith.

