Cinio Ysgol am Ddim Cliciwch yma

Ysgol Uwchradd Bodedern
  • Hwb
  • School Gateway

Gall rhieni chwarae rhan bwysig wrth gefnogi disgyblion.

Cyffredinol

  • Edrychwch drwy lyfr cyswllt eich plentyn yn rheolaidd
  • Llofnodwch y llyfr cyswllt yn wythnosol er mwyn sicrhau bod cyfathrebu effeithiol rhwng yr ysgol a’r cartref
  • Cysylltwch â’r Arweinydd Cynnydd perthnasol os oes gennych ymholiad neu byrderon
  • Sicrhewch bod gan eich plentyn yr offer angenrheidiol ar gyfer y gwersi
  • Sicrhewch bod gan eich plentyn le addas i weithio yn y cartref
  • Edrychwch ar lyfrau eich plentyn yn rheolaidd
  • Holwch eich plentyn am yr hyn a ddysgwyd yn yr ysgol
  • Trafodwch ddatblygiad academaidd efo’ch plentyn
  • Trafodwch ddulliau rheoli amser efo’ch plentyn
  • Trafodwch syniadau gyrfaol efo’ch plentyn
  • Cofiwch ganmol pob llwyddiant neu gynnydd efo’ch plentyn.
  • Rheolwch ddefnydd eich plentyn o’r wê

Adolygu

  • Rhowch annogaeth i’ch plentyn i fynychu unrhyw sesiynau ychwanegol e.e. adolygu sydd yn digwydd yn yr ysgol.
  • Edrychwch ar wefannau perthnasol e.e. CBAC/GCSE Bitesize er mwyn dod o hyd i adnoddau adolygu ychwanegol fydd yn cyfoethogi’r dysgu a wneir yn yr ysgol.
  • Rhowch amserlen adolygu gytunedig yn ei lle. Mae cyfnodau byr o adolygu yn fwy effeithio na chyfnodau estynedig h.y pytiau o adolygu am 20 munud yn fwy effeithiol na cyfnod o ddwy awr.
  • Trafodwch y darlun mawr efo’ch plentyn.