Cinio Ysgol am Ddim Cliciwch yma

Ysgol Uwchradd Bodedern
  • Hwb
  • School Gateway

CA3

Addysgir 30 o wersi yr wythnos yng Nghyfnod Allweddol 3 yn Ysgol Uwchradd Bodedern gyda’r disgyblion yn dilyn amrywiaeth o bynciau diddorol a chyffrous. Ceir 4 gwers yr wythnos ar gyfer pob un o’r pynciau craidd (Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) ym mlynyddoedd 7, 8 a 9. Rhennir gweddill yr amserlen wythnosol rhwng y pynciau all-graidd a ceir unai un neu ddwy o wersi i’r pynciau hyn ym mlynyddoedd 7, 8 a 9. Bydd hefyd un gwers diwtorial ar gyfer pob dosbarth cofrestru ym mhob blwyddyn.

Bydd y sgiliau allweddol (llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol) yn cael eu cymhwyso ar draws y cwricwlwm, ym mhob pwnc hefyd.

Yn ystod Blwyddyn 9, bydd y disgyblion yn cychwyn a chwblhau’r broses o ddewis eu pynciau ar gyfer eu hastudiaethau TGAU.

CA4

Addysgir 30 o wersi yr wythnos yng Nghyfnod Allweddol 4 yn Ysgol Uwchradd Bodedern gyda’r disgyblion yn dilyn amrywiaeth o bynciau craidd a phynciau dewis a fydd yn arwain at gymysgedd o gymwysterau TGAU, Galwedigaethol, BTEC, City & Guilds neu ASDAN. Bydd 18 o wersi’r wythnos yn mynd ar gyfer cymwysterau TGAU yn y pynciau craidd (Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth). Rhennir gweddill yr amserlen rhwng tri pwnc dewis (Addysg Gorfforol, Addysg Grefyddol, Celf, Cerdd, Dylunio a Thechnoleg, Daearyddiaeth, Drama, Ffrangeg, Hanes, Iechyd & Gofal Cymdeithasol, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Busnes Adwerthu, Lletygarwch, Trin Gwallt a Harddwch), y Dystysgrif Her Sgiliau a’r wers Diwtorial.

Fel rhan o’n darpariaeth ar gyfer Cyfnod Allweddol 4, mae Ysgol Uwchradd Bodedern yn gweithio mewn partneriaeth gyda gweddill Ysgolion Uwchradd Môn a Choleg Menai i gynnig cyfleoedd i’n disgyblion i fynychu sefydliadau eraill o fewn cyfnod y pynciau dewis i ddilyn cymwysterau Galwedigaethol, BTEC neu City & Guilds (Adeiladwaith, Dylunio’r Amgylchedd Adeiledig, Gwasanaethau Cyhoeddus, Peirianneg Fodurol, Technoleg Cerbydol a Pheirianneg).

Yn ystod Blwyddyn 11, mi fydd y disgyblion yn cychwyn a’r y broses o ddewis eu pynciau ar gyfer eu hastudiaethau Safon Uwch Gyfrannol os mai dychwelyd i’r ysgol i’r Chweched Dosbarth fydd eu llwybr. Bydd y broses yma yn cael ei chwblhau yn dilyn cyhoeddi eu canlyniadau TGAU ym Mlwyddyn 11.

CA5

Mae’r nifer o wersi fydd myfyriwr yng Nghyfnod Allweddol 5 yn ei astudio yn Ysgol Uwchradd Bodedern yn amrwyio yn seiliedig ar y nifer o bynciau a astudwyd ar gyfer Safon Uwch. Disgwylir i fyfyriwr sy’n dychwelyd i’r Chweched Dosbarth fod yn dilyn o leiaf dau bwnc yn ogystal â’r Dystysgrif Her Sgiliau. Cynniga’r ysgol nifer o bynciau a addysgir ar y safle (Addysg Gorfforol, Astudiaethau Crefyddol, Bioleg, Celf, Cemeg, Cymraeg, Dylunio a Thechnoleg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Hanes, Mathemateg, Saesneg, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu) a bydd y nifer o wersi a roddwyd i bob pwnc yn amrwyio rhwng 4 a 5 gwers yr wythnos.

Yn debyg i’n darpariaeth ar gyfer Cyfnod Allweddol 4, mae Ysgol Uwchradd Bodedern hefyd ar gyfer Cyfnod Allweddol 5 yn gweithio mewn partneriaeth gyda gweddill Ysgolion Uwchradd Môn a Choleg Menai i gynnig cyfleoedd i’n disgyblion i fynychu sefydliadau eraill o fewn yr amserlen i ddilyn cymwysterau Safon UG a Uwch, Galwedigaethol a BTEC (gweler y prosbectws isod).

O ganlyniad i hyblygrwydd amserlen Cyfnod Allweddol 5, mi fydd gan y disgyblion wersi di-gyswllt lle bydd disgwyl iddynt fod yn astudio yn eu amser eu hunain a chwblhau gwaith.

Prospectws