Cinio Ysgol am Ddim Cliciwch yma
Newyddion
DATGANIAD I RIENI
“Mae'n bosib eich bod newydd glywed cyhoeddiad swyddogol gan Cyngor Sir Ynys Môn yn datgan bod ysgolion yn “ail agor” am wythnos o ddydd Llun 13.7.2020 tan ddydd Gwener 17.7.2020 er mwyn cynnig y cyfle I BOB UN disgybl o bob blwyddyn gael sesiwn ymgysylltu gyda’u hathrawon a chyd ddisgyblion cyn gwyliau’r haf.
Mae ein paratoadau o ran diogelwch yn eu lle, fel yr ydych yn gwybod, ac rydym yn croesawu’r penderfyniad a’r cyfle yma. Byddwch yn hyderus felly y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau’r cyfle gorau a mwyaf diogel posib i’ch plant ddod atom i baratoi am yr haf a mis Medi. Byddwn yn cyfathrebu efo chi ymhellach gobeithio yn ystod y prynhawn gyda manylion y cynnig ac yn gofyn i chi gwblhau holiadur gwybodaeth unwaith eto er mwyn ein cynorthwyo i baratoi’n drylwyr. Mwy o wybodaeth i ddilyn.”
Yr Ystafell Gerdd yn edrych yn wych! Diolch i Miss Sara Hughes a Mr Paul Magee am eu gwaith! 🎶🎵🎶🌈💙🌈
Information for Parents

