Cinio Ysgol am Ddim Cliciwch yma
Newyddion
Datganiad i’r Wasg
Ymchwilio i ymosodiad seiber ar Ysgolion Uwchradd
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn ymchwilio i ymosodiad seiber sydd wedi effeithio ar bob un o’i pum ysgol uwchradd.
Mae systemau technoleg gwybodaeth - yn cynnwys cyfrifon e-bost - wedi eu hatal dros dro er mwyn gallu rheoli’r digwyddiad sydd wedi effeithio ar Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch; Ysgol Uwchradd Bodedern; Ysgol Gyfun Llangefni; Ysgol David Hughes, Porthaethwy, ac Ysgol Uwchradd Caergybi.
Fodd bynnag, mae’n bosib bod data personol sy’n cael ei chadw ar y systemau hyn wedi ei chyfaddawdu yn ystod yr ymosodiad seiber.
Eglurodd Annwen Morgan, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, “Fe wnaethom ddarganfod yr ymosodiad seiber ddoe (Dydd Mercher, Mehefin 23) ac yna symud yn gyflym i ddod â thîm o ymgynghorwyr technoleg seiber arbenigol i mewn er mwyn ymchwilio i’r mater. Bydd y Ganolfan Diogelwch Seiber Genedlaethol hefyd yn ein cefnogi er mwyn gallu datrys y mater.”
“Mae’n debyg y bydd ychydig o aflonyddwch i’r ysgolion dros yr wythnosau nesaf gan efallai y bydd angen i rai systemau gael eu hadfer ac y bydd eraill yn parhau i fod oddi ar lein am gyfnod.”
Ychwanegodd, “Rydym yn cydweithio’n agos â phartneriaid eraill er mwyn cefnogi ein hysgolion uwchradd. Er na allwn gadarnhau ar hyn o bryd a oes mynediad diawdurdod at ddata wedi digwydd, mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi eu hysbysu am y digwyddiad.”
Ni fydd Cyngor Sir Ynys Môn yn gwneud unrhyw sylwadau pellach ar hyn o bryd.
Diwedd 24.6.21
Am fwy o wybodaeth: Gethin Jones, Uned Gyfathrebu (01248) 752130
Press release
Secondary schools’ cyber-attack investigated
The Isle of Anglesey County Council is investigating a cyber-attack, which has affected all of its five secondary schools.
Information technology systems - including email accounts - have been temporarily disabled to contain the incident, which has affected Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch; Ysgol Uwchradd Bodedern; Ysgol Gyfun Llangefni; Ysgol David Hughes, Menai Bridge, and Ysgol Uwchradd Caergybi.
However, it is possible that personal data held on these systems could have been compromised during the cyber-attack.
Anglesey Council’s Chief Executive, Annwen Morgan, explained, “We discovered the cyber-attack yesterday (Wednesday, June 23rd) and moved quickly to bring in a team of specialised cyber-technology consultants to investigate. The National Cyber Security Centre will also be providing us with support to resolve matters.”
“There is likely to be some disruption at the schools over the coming weeks as systems may need to be restored and others remain offline.”
She added, “We are working closely with other partners to support our secondary schools. Although we are not currently able to confirm that there has been a data breach, the Information Commissioner’s Office has also been made aware of the incident.”
Anglesey Council will not be making any further comment at present.
Ends 24.6.21
For further information: Gethin Jones, Communications Unit (01248) 752130
Ffarwelio efo Blwyddyn 11
Y diweddaraf o'r Adran Addysg Gorfforol - braf gweld ein disgyblion yn ôl!
Mae eich pleidlais yn cyfri!
Mwynhewch y gwyliau!
Swydd Wag
Llongyfarchiadau mawr iawn i Lily, blwyddyn 10 ar ennill Rhagoriaeth yn ei arholiad Gradd 2 Canu. Da iawn chdi!
Holiadur Rhieni: YMATEB ANHYGOEL! DIOLCH YN FAWR ....
Diolch i chi am yr ymateb anhygoel i’r holiadur, anhygoel o ran eich cefnogaeth i’r ysgol ond hefyd o ran nifer sydd wedi ymateb. Cafwyd 326 ymateb ynghyd a 179 sylw penodol. Gallaf eich sicrhau y byddaf yn mynd drwy bob un o’r sylwadau yma yn bersonol ac yn rhannu gyda chi sut y byddwn yn addasu ac esblygu ein darpariaeth. Byddaf hefyd yn rhannu gyda chi yn llawn y data i gwestiwn 1, 2 a 3.
Mae Mia o flwyddyn 11 wedi cael gwahoddiad i fod yn rhan o garfan pêl-droed Cymru o dan 17 y flwyddyn nesaf. Mae hi wedi gweithio’n eithriadol o galed dros y blynyddoedd ac rydym yn falch iawn ohoni. Fodd bynnag, mi fydd ganddi benderfyniad anodd i'w wneud gan eu bod am iddi symud i lawr i'r de i fynychu Coleg y Cymoedd ym mis Medi. Pob lwc gyda pha bynnag benderfyniad wnei di.
DIWEDDARIAD PWYSIG
Oherwydd cynnydd mewn achosion COVID-19 yng nghymunedau Ynys Môn, ac yn dilyn trafodaethau a chytundeb rhwng yr Awdurdod Lleol a Phrifathrawon Ynys Môn, penderfynwyd na fydd disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb tan o leiaf 18 / 01/2021.
Bydd gwersi yn parhau ar-lein.
Ein nod yw croesawu pob disgybl yn ôl i'r ysgol o'r 18fed ymlaen - fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei gadarnhau yn dilyn asesiad o'r sefyllfa yn agosach at yr amser.
Byddwn yn gwahodd yr holl ddisgyblion yn ôl i adeiladau'r ysgol pan fydd amodau yn caniatau.
Yn y cyfamser, bydd gofal ar gael i blant bregus a phlant gweithwyr allweddol yn yr ysgolion unigol.
Diweddariad ail-agor
Yn dilyn trafodaethau a chytundeb gyda'r Awdurdod penderfynwyd, oherwydd yr amgylchiadau cyfredol, na fydd disgyblion Blynyddoedd 11-13 yn dychwelyd i'r ysgol Dydd Mercher 6 Ionawr 2021. Bydd gwersi yn parhau ar lein yn unol â'r drefn arferol. Anelir at sefyllfa lle fydd pawb yn dychwelyd o'r 11eg o Ionawr 2021 ymlaen ond fe fydd hyn yn cael ei adolygu yn dilyn asesiad o'r sefyllfa ganol wythnos nesaf.
Felly
HMS 04.01.21 & 05.01.21
Gwersi ar lein i bawb: Blynyddoedd 7-13 06.01.21-08.01.21
Drym rol...fideo 2 yn cael ei rhyddhau 'fory. Byddwch yn barod, mae hon yn gracar!
Ceisio cadw pawb yn Boded yn ddiogel. Masgiau o safon uchel wedi eu rhannu i bawb heddiw.
Gwybodaeth gan Cyngor Sir Ynys Môn
Archebion Lluniau Ysgol
Diwrnod Di-Wisg Ysgol
Dydd Gwener
13/11/20
03/11/20
Bydd yr ysgol yn ail-agor dydd Mawrth, 3ydd o Dachwedd 2020 i ddisgyblion blynyddoedd 7 ac 8 yn unig.
Bydd disgyblion blynyddoedd 9-13 yn dilyn eu hamserlen O ADREF.
Gwiriwch Google Classroom am fanylion.
Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth dros yr hanner tymor diwethaf. Cadwch yn ddiogel dros y gwyliau.
Diwrnodau HMS: 23/10/2020 & 02/11/2020 YSGOL AR GAU I BOB DISGYBL
Lluniau Blwyddyn 7 a 12 yn cael eu tynnu dydd Mercher 21/10/20. Pawb i fod mewn gwisg ysgol lawn os gwelwch yn dda. Bydd yr archebion i gyd ar lein eleni.
Rheoli Pryder.
Cafwyd p'nawn llwyddiannus iawn efo criw TGAU Blwyddyn 10 Addysg Gorfforol heddiw yn gwneud profion ffitrwydd. Da iawn chi!
Croeso mawr i’n holl ddisgyblion BLWYDDYN 7 sy’n ymuno efo ni heddiw am y tro cyntaf! Croeso i deulu a chymuned Boded!❤️
Prydau Mynd Allan ar gael drwy ddilyn y linc isod. Dyddiad cau ceisiadau 05/07/2020.

