Cinio Ysgol am Ddim Cliciwch yma
Newyddion
𝐂𝐲𝐡𝐨𝐞𝐝𝐝𝐢 𝐋𝐢𝐧𝐜!
𝐃𝐫𝐨𝐬 𝐲 𝐟𝐥𝐰𝐲𝐝𝐝𝐲𝐧 𝐝𝐝𝐢𝐰𝐞𝐭𝐡𝐚𝐟 𝐦𝐚𝐞 𝐘𝐬𝐠𝐨𝐥 𝐔𝐰𝐜𝐡𝐫𝐚𝐝𝐝 𝐁𝐨𝐝𝐞𝐝𝐞𝐫𝐧 𝐰𝐞𝐝𝐢 𝐛𝐨𝐝 𝐦𝐞𝐰𝐧 𝐜𝐲𝐬𝐰𝐥𝐥𝐭 𝐡𝐞𝐟𝐨 𝐒𝐭 𝐃𝐚𝐯𝐢𝐝’𝐬 𝐒𝐜𝐡𝐨𝐨𝐥 𝐲𝐧 𝐆𝐫𝐞𝐲𝐬𝐭𝐨𝐧𝐞𝐬, 𝐂𝐨 𝐖𝐢𝐜𝐤𝐥𝐨𝐰. 𝐂𝐚𝐟𝐨𝐝𝐝 𝐌𝐫𝐬 𝐒𝐚𝐮𝐧𝐝𝐞𝐫𝐬𝐨𝐧 𝐚 𝐌𝐫 𝐌𝐚𝐠𝐞𝐞 𝐲 𝐜𝐲𝐟𝐥𝐞 𝐢 𝐟𝐲𝐧𝐝 𝐢 𝐲𝐦𝐰𝐞𝐥𝐝 â’𝐫 𝐲𝐬𝐠𝐨𝐥 𝐚 𝐜𝐡𝐲𝐟𝐚𝐫𝐟𝐨𝐝 𝐞𝐢 𝐬𝐭𝐚𝐟𝐟. 𝐌𝐚𝐞’𝐫 𝟐 𝐲𝐬𝐠𝐨𝐥 𝐰𝐞𝐝𝐢 𝐜𝐲𝐭𝐮𝐧𝐨 𝐢 𝐠𝐲𝐝𝐰𝐞𝐢𝐭𝐡𝐢𝐨 𝐝𝐫𝐨𝐬 𝐲 𝐛𝐥𝐲𝐧𝐲𝐝𝐝𝐨𝐞𝐝𝐝 𝐧𝐞𝐬𝐚𝐟 𝐢 𝐫𝐨𝐢 𝐜𝐲𝐟𝐥𝐞𝐨𝐞𝐝𝐝 𝐚𝐥𝐥𝐠𝐲𝐫𝐬𝐢𝐨𝐥 𝐠𝐰𝐲𝐜𝐡 𝐢’𝐫 𝐝𝐢𝐬𝐠𝐲𝐛𝐥𝐢𝐨𝐧. 𝐁𝐲𝐝𝐝𝐚𝐧 𝐧𝐢’𝐧 𝐞𝐝𝐫𝐲𝐜𝐡 𝐲𝐦𝐥𝐚𝐞𝐧 𝐚𝐭 𝐚𝐝𝐞𝐢𝐥𝐚𝐝𝐮’𝐫 𝐩𝐞𝐫𝐭𝐡𝐲𝐧𝐚𝐬 𝐲𝐦𝐚 𝐝𝐫𝐨𝐬 𝐲 𝐛𝐥𝐲𝐧𝐲𝐝𝐝𝐨𝐞𝐝𝐝 𝐧𝐞𝐬𝐚𝐟!
Croeso’n ôl i flwyddyn gyffrous arall yn Ysgol Uwchradd Bodedern. Hoffwn atgoffa pawb eto y bydd disgwyl i bawb wisgo gwisg ysgol lawn bob dydd. Manylion llawn am ein gwisg ysgol a chefnogaeth ar ein safle wê. Gallwch drafod gyda pennaeth blwyddyn eich plentyn os oes unrhyw gwestiwn. Croeso cynnes i’n holl ddisgyblion newydd, edrych ymlaen i weld pawb bore yfory.
Bore fory blwyddyn 7 ac 8 i ddod mewn drwy’r brif fynedfa, blwyddyn 9 , 10 a’r chweched drwy ddrws ger grisiau Cymraeg a blwyddyn 11 drwy ddrws Bro Alaw.
Llongyfarchiadau mawr i'n disgyblion dderbyniodd eu canlyniadau TGAU heddiw. Dymunwn yn dda iddynt i gyd ar weddill eu siwrne, boed yn ôl hefo ni ym Modedern, yn y Coleg neu fyd gwaith.
Ysgol yn ail agor i ddisgyblion dydd Mawrth 05.09.2023
Llongyfarchiadau gwresog i holl ddisgyblion Ysgol Uwchradd Bodedern ar ganlyniadau Lefel A gwych, rydym yn hynod falch o’u llwyddiant. Dymunwn pob lwc i’n disgyblion yn y dyfodol ac edrychwn ymlaen i olrhain eu cyflawniad mewn Prifysgol, astudiaeth bellach neu mewn gyrfa.
Mae Ysgol Uwchradd Bodedern yn cefnogi'r elusen Hosbis Dewi Sant!! Yn dilyn dosbarthu taflenni ym Modedern a Bryngwran yr wythnos hon, nodyn i'ch atgoffa y bydd disgyblion 9D a 9E yn dod heibio i gasglu rhoddion ar y dyddiau canlynol (gadewch fag neu focs ar eich stepan os yn gweithio):
Bryngwran, dydd Mawrth, 4 Gorffennaf 10-12yp
Bodedern, dydd Mercher, 5 Gorffennaf 10-12yp
Beth allwch ei roi ?
Dillad / esgidiau / bagiau / gemau a theganau / llyfrau a DVDS / llestri a gwydrau / unrhyw eitem ar gyfer tombola
Diolch am eich cefnogaeth
Diwrnod HMS Day 26.06.23 Ysgol ar gau i ddisgyblion / School closed for pupils.
Ymunwch a teulu Ysgol Uwchradd Bodedern!!
Diolch yn fawr iawn i Mared Williams am ddod i arwain ein Grŵp TGAU Cerdd mewn gweithdy cyfansoddi.
Dyddiadau pwysig - Important dates!
Archebwch eich tocynnau drwy gysylltu efo ni
Bydd y Clwb BSL yn cyfarfod bob nos Lun rhwng 3pm a 4pm. Cyfle gwych i ddysgu British Sign Language.
Cofiwch am y noson agored 27.09.22
Bydd yr ysgol yn ail-agor i ddisgyblion dydd Llun 05/09/22 - edrychwn ymlaen i groesawu pawb yn ôl.
18fed o Fawrth yw Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Camfanteisio ar Blant. Mae’r diwrnod yn rhoi cyfle i ni dynnu sylw at y materion o gwmpas Camfanteisio ar Blant ac annog pawb i feddwl, adnabod a chodi llais yn erbyn cam-drin.
Dymuna pawb yn Ysgol Uwchradd Bodedern estyn eu cydymdeimlad dwysaf i holl deulu a ffrindiau Elgan Wyn Jones. Roedd Elgan yn ddisgybl hynod boblogaidd ymysg staff a phlant yr ysgol. Bydd colled enfawr ar ei ôl yng nghymuned ein hysgol.
DYDD IAU 03/03/22: Diwrnod Gwisgo Coch / Ffair BAC Blwyddyn 10
Cofiwch eich newid mân!
Elw at Teenage Cancer Trust. Diolch
Llongyfarchiadau enfawr i Beca, Gwenlli a Cadi ar eu llwyddiant!
Llongyfarchiadau mawr iawn hogiau!
Er mwyn rhoi amser i ysgolion asesu eu capasiti staffio a rhoi'r mesurau angenrheidiol ar waith i gefnogi dychweliad dysgwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu rhoi dau ddiwrnod cynllunio i bob ysgol ar ddechrau'r tymor nesaf (6 a 7 Ionawr 2022). Ni fydd ysgolion yn darparu unrhyw ddysgu ar-lein/cyfunol yn ystod y dyddiau hyn. Mae disgwyl i bob dysgwr ym Môn ddychwelyd i'r ysgol ddydd Llun 10 Ionawr. Bydd taliadau electronig yn parhau i'r teuluoedd hynny sydd â hawl i ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i'w plant.
Yn dibynnu ar sefyllfa Covid, mae'n bosibl y gwelwn newidiadau yn y ffordd y mae ysgolion yn gweithredu pan fyddant yn dychwelyd ym mis Ionawr. Byddwn yn parhau i asesu'r sefyllfa mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a phenaethiaid. Bydd ysgolion yn rhannu unrhyw ddiweddariadau perthnasol gyda chi fel y bo'n briodol.
Mae hon yn sefyllfa sy'n esblygu'n gyflym ac rydym yn eich annog i gymryd gofal ychwanegol i gadw eich hunain a'r rhai o'ch cwmpas mor ddiogel â phosibl.
Hoffwn ddiolch am eich amynedd ac eich cydweithrediad parhaus. Dymuniadau gorau i chi a’ch teulu dros y Nadolig.
Cofion,
Gwasanaeth Dysgu Ynys Môn
In order to provide schools with time to assess staffing capacity and put the necessary measures in place to support the return of learners, the Welsh Government has decided to provide all schools with two planning days at the beginning of next term (6 and 7 January 2022). Schools will not be providing any online/blended learning during these days. All learners on Anglesey are expected to return to school on Monday 10 January. Electronic payments will continue for those families are entitled to free school meal provision for their children.
Depending on the Covid situation, it is possible that we will see changes in how schools operate when they return in January. We will continue to assess the situation in collaboration with Welsh Government, Public Health Wales and headteachers. Schools will share any relevant updates with you as appropriate.
This is a fast evolving situation and we urge you to take extra care to keep yourselves and those around you as safe as possible.
We would like to thank you for your patience and continued support. Best wishes to you and your family over Christmas.
Regards,
Anglesey Learning Service
Unwaith eto eleni bydd YUB yn cefnogi ymgyrch Calendr Adfent o Chwith. Bwriad y cynllun yw casglu nwyddau drwy gydol mis Rhagfyr i'w cyflwyno i'r Banc Bwyd ar ddiwedd y mis. Rydym yn derbyn y pethau canlynol:
Llefrith Hir Oes, Tuniau Cawl, Tuniau Cwstard/Pwdin Reis, Tuniau Llysiau, Jam / Marmalêd, Tê/Coffi, Siocled a Nwyddau ymolchi
Diolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth.
#calendradfentochwith
Fel rhan o waith Her Menter y Fagloriaeth mae 2 grwp wedi dewis brîff Gwasanaeth Gwaed Cymru ac er nad ydy hi'n orfodol iddynt wneud y fenter go iawn, mae criw o'n disgyblion sef Cerys, Megan, Alys, Catrin, Magi a Mia am gwblhau'r her go iawn a helpu GGC i hyrwyddo rhoi gwaed.
Bu aelod o GGC yn siarad efo bl 13 wythnos diwethaf i godi ymwybyddiaeth am waed, mêr esgyrn, a phlatennau gan bobl ifanc rhwng 17-31.
Mae un rhodd o waed yn gallu achub 3 person neu 6 babi.
Ydych chi wedi rhoi gwaed o'r blaen?
Mae gwasanaeth Gwaed Cymru yn galw ar breswylwyr ardal Caergybi i ddechrau achub bywydau!
Bydd y clinig nesaf yn CPD Holyhead Hotspur Rhagfyr 29 a 30.
Ewch i https://wbs.wales/YsgolBodeder... i wneud apwyntiad i roi rhodd a allai achub bywyd.
Gwybodaeth i ddisgyblion a rhieni
Diwrnod Di-Wisg Ysgol

