Cinio Ysgol am Ddim Cliciwch yma
Covid-19
Canllawiau Covid-19 a Hunan Ynysu
Canllawiau i Rieni a Disgyblion

Medi 2021
PWYSIG!
Os oes gennych brofion LFT ar ôl, i'r rheiny sy'n dychwelyd i'r 6ed gofynnwn iddynt brofi nos Iau 02/09/21, ac i bawb arall profi nos Sul 05/09/21 neu fore Llun cyn dychwelyd i'r ysgol.
Dylid wedyn profi bob dydd Llun a dydd Iau yn wythnosol. Os nad oes gennych brofion LFT ar ôl bydd yr ysgol yn darparu mwy ar gyfer yr holl ddisgyblion fel y galw a phan fydd cyflenwad newydd wedi ein cyrraedd.
*Cofier - os yw eich plentyn yn arddangos unrhyw symptomau, yna ni ddylech eu hanfon i'r ysgol ar unrhyw gyfrif a dylech drefnu prawf PCR iddynt yn syth gan ddefnyddio'r ddolen isod.*